Sefyll gyda’n gilydd – Cefnogi ein Cydweithwyr a’n Cymunedau
Annwyl gyd-weithwyr / gyfeillion,
Yng ngolau cynnydd diweddar mewn trais hiliol ac eithafol, anhrefn, ac ymosodiadau wedi’u targedu tuag at unigolion, teuluoedd a chymunedau o leiafrifoedd ethnig, hoffem annog pawb i edrych ar ôl y bobl o’ch cwmpas i sicrhau eu bod yn iawn.
Efallai bod llawer o’n cydweithwyr a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu yn profi ofn, gofid ac ansicrwydd. Mae effaith y digwyddiadau hyn yn effaith gorfforol ond yn fwy na hynny mae hefyd yn emosiynol iawn, yn enwedig i’r rhai sydd yn teimlo eu bod dan berygl yn uniongyrchol.
Yn EYST, rydym ar hyn o bryd yn derbyn nifer fawr o adroddiadau gan aelodau staff a chleientiaid ar draws Cymru, sydd yn dangos graddfa a difrifoldeb o’r hyn mae’r cymunedau yn ei brofi. Mae hyn yn adlewyrchu lefel gynyddol o ofn, brawychiad, a niwed sydd yn gofyn i ni i gyd ymateb ar frys a gyda gofal.
Fel pobl broffesiynol mae hyn hefyd yn golygu bod cyfrifoldeb arnom ni i ddiogelu pobl.
Mae cyfrifoldeb arnom ni i fod yn rhagweithiol i ddiogelu unigolion a chymunedau rhag pob math o hiliaeth, gan gynnwys agwedd gwrth-islamaidd ac unrhyw niwed arall ar sail casineb. Mae hyn yn golygu mwy nag ymateb i ddigwyddiadau yn unig; mae’n golygu bod yn rhagweithiol trwy gynnig cefnogaeth, cysur ac amddiffyn y rhai sy’n cael eu heffeithio.
Mae adrodd yn gywir ac yn onest yn hanfodol wrth adrodd neu gofnodi digwyddiadau. Rhaid i ni beidio â gwanedu na lleihau beth sydd yn ei ddigwydd. Rhaid adnabod, enwi a chofnodi pob digwyddiad sy’n hiliol, gwrth-islamaidd neu yn seiliedig ar gasineb fel digwyddiad o’r math. Rhaid peidio â’u cam-gofnodi fel ‘aflonyddu’ na gwrthdaro cyffredinol. Mae cofnodi cywir yn hanfodol i sicrhau camau gweithredu priodol, atebolrwydd, ac amddiffyn y rhai sydd yn cael eu heffeithio.
Cymerwch amser i:
· Cysylltwch â’ch cydweithwyr o leiafrifoedd ethnig yn ofalus ac yn sensitif.
· Gwiriwch gyda defnyddwyr eich gwasanaethau, yn enwedig y rhai allai deimlo’n fregus neu’n anniogel i sicrhau eu bod yn iawn.
· Cydnabyddwch beth sydd yn ei ddigwydd. Gall gadw’n ddistaw wneud i bobl deimlo’n unig/ynysig.
Cynigiwch gysur ac atgoffwch bobl o’r systemau cefnogaeth sydd ar gael.
Rhaid i ni hefyd sicrhau arweiniad clir:
· Peidiwch ag ymyrryd mewn sefyllfaoedd peryglus.
Adroddwch bob digwyddiad, bygythiad, neu bryder yn ddiymdroi trwy’r sianeli priodol.
Mae adrodd yn hanfodol. Rhaid adrodd digwyddiadau er mwyn gallu eu cofnodi’n gywir, eu monitro, ac ymateb iddyn nhw. Mae hyn yn helpu i amddiffyn unigolion a chymunedau, yn ogystal ag atal niwed pellach. Hyd yn oed os ydy digwyddiad yn ymddangos yn fach neu’n ansicr, mae ei gofnodi a’i gymryd o ddifri yn bwysig.
· Ffoniwch 999 mewn argyfwng.
· Ffoniwch 101 ar gyfer digwyddiadau sydd ddim yn argyfwng.
· Gallwch hefyd adrodd ar ddigwyddiadau ar-lein gyda’ch gwasanaeth heddlu lleol neu yn ddienw trwy Crimestoppers (0800 555111).
Mae aelodau staff EYST ar gael i gefnogi unigolion sydd efallai ddim yn teimlo eu bod yn gallu adrodd eu hunain trwy adrodd ar y digwyddiad ar eu rhan.
Mae hyn yn amser i weithredu ar y cyd trwy ofal, tosturi, ac arweiniad. Gall weithredoedd bach o undod wneud gwahaniaeth mawr. Gadewch i ni sefyll gyda’n gilydd i sicrhau bod pawb yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u hamddiffyn, a’u bod yn teimlo’n ddiogel.
Cofion cynnes,
Uwch dîm Rheoli EYST
#EYST #Strongertogether #MewnUndebMaeNerth